SL(6)142 - Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2022

Cefndir a Diben

Bydd y Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018 ("Rheoliadau 2018"). Gwneir y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

Roedd gwiriadau dogfennau, gwiriadau adnabod ac archwiliadau ffisegol o blanhigion a reoleiddir, ac o gynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill, i fod i gael eu cyflwyno'n raddol yn 2021/22, yn rhan o’r cyfnod graddoli trosiannol a oedd yn pennu’r gwiriadau glanweithdra a ffytoiechydol (SPS) a oedd i’w cynnal, a’r dyddiad yr oeddent i’w cynnal, ar yr holl blanhigion a chynhyrchion planhigion blaenoriaeth uchel a heb flaenoriaeth uchel.

Mewn newidiadau a wnaed yn ddiweddar, estynnwyd y cyfnod graddoli a phennwyd dyddiad diwygiedig, 1 Gorffennaf 2022, ar gyfer cyflwyno'r gwiriadau SPS gofynnol. Gwnaed y newidiadau hynny drwy ddiwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 a ddaeth i rym ar 30 Rhagfyr 2021, ar ôl cael cydsyniad Llywodraeth Cymru.

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2018 i ddarparu bod yr amserlen ar gyfer gosod ffioedd penodol yng Nghymru yn cyd-fynd â'r cyfnod graddoli trosiannol estynedig. Mae angen y newidiadau hyn i sicrhau na fydd y ffioedd angenrheidiol am fewnforio planhigion yn cael eu codi ar fusnesau yng Nghymru cyn y dyddiad gweithredu newydd ar 1 Gorffennaf 2022. Ar hyn o bryd, mae deddfwriaeth yn pennu mai’r dyddiad gweithredu ar gyfer ffioedd yng Nghymru yw 1 Mawrth 2022.

Gweithdrefn

Cadarnhaol drafft

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nid oes gofyniad mewn cysylltiad ag ymgynghori o fewn Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Fodd bynnag, nodwn y sylwadau a ganlyn ym Memorandwm Esboniadol Llywodraeth Cymru o ran ymgynghori:

“Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad byr, wedi’i dargedu, drwy’r e-bost ym mis Rhagfyr 2021. Roedd yr ymgynghoriad hwnnw’n cael ei gynnal ar ran Gweinidogion Cymru hefyd, ac fe’i hanfonwyd at fwy na 120 o randdeiliaid allweddol, gan gynnwys rhai yng Nghymru. Ni ddaeth unrhyw ymatebion i law yn gwrthwynebu'r cynigion.”

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad y cyfeirir ato uchod rhwng 10 a 13 Rhagfyr 2021 gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 a estynnodd y cyfnod graddoli trosiannol.

Cyfeiriwyd at yr ymgynghoriad byr hwn mewn ymateb gan Lywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ynghylch Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021. Dywedodd Llywodraeth Cymru yn ei hymateb:

“Gwnaeth swyddogion Defra goladu’r ymateb i’r ymgynghoriad a’i rhannu â Llywodraeth Cymru. Pan ddaeth yr ymgynghoriad i ben, dim ond un ymateb a gafwyd, sef ymateb a oedd yn cefnogi’r cynigion.”

Er na ddaeth unrhyw ymatebion i law yn gwrthwynebu'r cynigion fel y nodir yn y Memorandwm Esboniadol, mae'n werth nodi mai dim ond un ymateb a dderbyniwyd i'r ymgynghoriad byr hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

1 Chwefror 2022